Croeso

Croeso i wefan Eisteddfod Llanwrtyd

Yma fe gewch wybodaeth am beth sydd yn digwydd cyn, yn ystod, ac ar ôl Eisteddfod Llanwrtyd.

Mae yma oriel luniau o eisteddfodau’r gorffennol ynghyd â chanlyniadau’r eisteddfod ddiwethaf.

Cofiwch gefnogi’r eisteddfod nesaf a gynhelir ar 23ain o Fedi, 2017 a chysylltwch os hoffech chi weld unrhyw beth penodol ar y wefan hon.

Enillydd Cadair 2015, Iestyn Tyne o Bwllheli

Oes gennych chi unrhyw ddeunydd a allai fod yn berthnasol i’r wefan hon? Hen luniau o’r eisteddfod ac yn y blaen – rhowch wybod a byddwn yn fwy na balch o’u cynnwys.

Cefnogwch!
Cofiwch gefnogi eich eisteddfod leol. Fel arall fe fydd hi’n marw – a’r Eisteddfod Genedlaethol ar ei hôl.