Hanes

Hanes yr Eisteddfod

Cynhaliwyd Eisteddfod gyntaf Llanwrtyd a wyddys amdani ar ddydd Mercher, Awst 12fed 1863 ar ddôl John Pugh. Ar yr adeg honno, cynhaliwyd yr eisteddfod mewn pabell ond weithiau fe’i chynhaliwyd mewn capel e.e. ym 1887 mae’n debyg i’r eisteddfod cael ei chynnal yng Nghapel Gelynos, sef Capel yr Annibynwyr cyntaf yn ardal Llanwrtyd.

Wedi codi Neuadd Fictoria yn Llanwrtyd ym 1887, cynhaliwyd yr eisteddfod yno a hynny mae’n debyg ar Ddydd Calan bob blwyddyn.

Ar yr adeg honno, roedd Llanwrtyd yn lle poblogaidd iawn a deuai ymwlewyr i’r lle yn eu cannoedd bob haf i gymryd y dŵr sylffwr o’r ffynhonnau gan gredu ei fod yn llesol iddynt. Fel adloniant, cynhaliwyd eisteddfodau yn wythnosol mewn neuadd fach a godwyd wrth ffynhonnau Fictoria ac mae’n debyg fod y lle yn orlawn ymhell cyn yr amser cychwyn.

SONY DSC
Hen darian Eisteddfod Llanwrtyd sydd yn ein meddiant ac sy’n gan mlwydd oed. Rhoddwyd y darian ar gyfer cystadleuaeth y côr a noder mai Côr Llanwrtyd oedd yn llwyddiannus nôl ym 1914.

price41
Madam Carlton-Jones

Tawelodd pethau yn y byd eisteddfodol yn Llanwrtyd yn y 1940’au ond ym 1951 adfywiwyd yr eisteddfod gan berson o’r enw Madam Elizabeth Carlton-Jones, yn enedigol o Lanwrtyd. Bu’n byw yn Cadoxton ar un adeg ac mae’n debyg iddi arwain Côr Merched Pontarddulais tra roedd hi yno. Roedd yn berson cerddorol iawn ac arferai roi gwersi hyfforddiant llais a hi sefydlodd ac a arweiniodd Côr Merched Llanwrtyd.

Ar yr adeg honno, gan fod Neuadd Fictoria yn rhy fach, gorfu i’r eisteddfod gael ei chynnal mewn pabell ac ar un achlysur gan fod y tywydd mor anffafriol, mae’n debyg i’r golau ddiffodd yn y babell a hynny yng nghanol y cystadlu!

Rhaglen yr Eisteddfod o 1953
Rhaglen Eisteddfod Llanwrtyd 1953

Yn 1957 dychwelodd yr eisteddfod i Neuadd Fictoria. Ar un adeg, cynhaliwyd eisteddfod y plant ym mis Gorffennaf ac eisteddfod yr oedolion ym mis Awst ond yn 1978 aeth y ddwy eisteddfod at ei gilydd ac felly y bu ers hynny.

I ddathlu’r hanner canfed eisteddfod yn Llanwrtyd yn y flwyddyn 2000, gwnaeth Iwan Price, Pant teg gadair hardd fel rhan o’i waith ymarferol ar gyfer ei arholiad Dylunio a Thechnoleg Safon ‘A’ a’i chyflwyno fel rhodd i bwyllgor eisteddfod Llanwrtyd. Gan i’r seremoni gadeirio honno fod yn llwyddiant ysgubol, penderfynwyd i barhau i gynnwys y gystadleuaeth hon yn flynyddol a gellir dweud ei bod yn denu llawer o gystadleuwyr a chynulleidfa bob blwyddyn.

Iwan Price (ail o'r chwith) yn cyflwyno'r Gadair i aelodau Pwyllgor Eisteddfod Llanwrtyd 2000.
Iwan Price (ail o’r chwith) yn cyflwyno’r Gadair i aelodau Pwyllgor Eisteddfod Llanwrtyd 2000 (llun trwy garedigrwydd Marina Gallery, Llandrindod).

Roedd Eisteddfod 2003 yn un hanesyddol gan mai dyma’r tro cyntaf i berson can mlwydd oed lywyddu sef Mrs Bet Richards, Hafod Villa, Llanwrtyd. Bu Bet Richards yn ffyddlon iawn i’r eisteddfod am flynyddoedd lawer ac roedd hi’n anrhydedd pan dderbyniodd hi’r gwahoddiad i lywyddu. Yn cadw cwmni i Mrs Bet Richards y diwrnod hwnnw oedd Glyn a Mair Davies, Aberaeron (gynt o Lanwrtyd) ac fe wnaeth Glyn Davies, fel ffrind a chyn-gadeirydd yr eisteddfod, araith bwrpasol ar ran Mrs Bet Richards.

Yn y gorffennol, bu nifer o bobl yn cyfeilio yn yr eisteddfod yn cynnwys Madam Florence Holloway a Madam Gloria Lloyd ond bellach ers 2007 rydym yn ffodus i gael arbenigedd Mr Gareth Wyn Thomas o Gapel Hendre i gyfeilio yn sesiynau’r prynhawn a’r hwyr. Mrs Heather Davis, Beulah yw’r cyfeilydd swyddogol ar gyfer y cystadleuathau lleol.


Emyn Dathlu’r Eisteddfod yn 60 oed

Mewn oes gythryblus, molwn Dduw,
Am gadw’n gwerthoedd gwâr yn fyw,
Ac am fod traddodiadau’n gwlad
Yn gymeradwy gan ein Tad.

Diolch i’r rhai a ddaeth ar dro
I brofi rhin ffynhonnau’r fro,
Am feithrin yn eu henaid, dân
Dros holl hyfrydwch llên a chân.

Cymanfa ac eisteddfod fu’n
Llewyrchus iawn, a mawr eu bri;
Tyrfaoedd brwd yn codi’u llef
O fawl a moliant yn ein tref.

Wrth i ni’n unol ddathlu’n llon
Oroesiad yr eisteddfod hon,
Rhoi diolch wnawn am lafur gwiw
Y rhai sy’n cadw’r fflam yn fyw.

John Meurig Edwards, Aberhonddu
Eisteddfod Llanwrtyd 2010


Er mwyn cynnal eisteddfod lwyddiannus bob blwyddyn, rhaid i’r pwyllgor ddibynnu ar bob cefnogaeth megis y stiwardiaid; y cystadleuwyr; y beirniaid a’r cyfeilyddion; gwneuthurwyr y bagiau; y sawl sy’n rhoi gwobrau a’r rheini sy’n cyfrannu ac yn darparu lluniaeth yn y neuadd ar ddiwrnod yr eisteddfod.

Yn ogystal, gwerthfawrogir pob rhodd ariannol oddiwrth ein holl is-lywyddion ond yn bennaf oll, mae’n dyled ni’n fawr i Paul a June Newman, Charcroft Electronics Ltd, Dôl y Coed, Llanwrtyd sydd wedi cyfrannu’n hael iawn i’r eisteddfod bob blwyddyn ers 1997.